Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
17 Ionawr 2024
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13681
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2, 3 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.31
Gofynnwyd cwestiynau 1-4 a 6-8. Ni ofynnwyd cwestiwn 5. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.14
Atebwyd gan Weinidog yr Economi
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael mewn perthynas â dyfodol cwmni Gwynedd Shipping?
Atebwyd gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth
Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn rhoi ymateb i argymhelliad unfrydol Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol y dylai fod gan Lywodraeth Cymru rôl ffurfiol yn y broses o benodi Cadeirydd newydd ar gyfer S4C?
Ni chafwyd unrhyw Ddatganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.37
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8370 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar sicrwydd hinsawdd i blant a phobl ifanc.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) diwygio Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 i sicrhau bod y cwricwlwm ysgol yn cynnwys dealltwriaeth o ddifrifoldeb a brys yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol fel cysyniad allweddol ar draws pob maes dysgu a phrofiad;
b) sicrhau bod y cwricwlwm yn adlewyrchu brys ac anghenraid mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a diogelu'r amgylchedd ecolegol;
c) sicrhau nad yw addysgu o'r fath wedi'i gyfyngu i bynciau traddodiadol sy'n cwmpasu'r maes hwn, ond wedi'i wreiddio ar draws pob maes dysgu a phrofiad;
d) cydnabod pwysigrwydd dysgu isganfyddol a hyrwyddo amgylchedd cynaliadwy lle y gall dysgu ddigwydd; ac
e) dechrau mynd i'r afael â phryder hinsawdd ymhlith plant a phobl ifanc.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
17 |
13 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 15.55
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8452 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru 2022-2023.
2. Yn gresynu bod yr adroddiad:
a) yn amlygu risgiau yn ymwneud â gofal brys, pryderon staffio, llif gwael cleifion a hygyrchedd apwyntiadau;
b) yn datgan bod oedi yn aml o ran rhyddhau cleifion oherwydd prinder staff gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol i asesu anghenion rhyddhau; ac
c) heb ddod o hyd i dystiolaeth fod mentrau Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth clir a sylweddol i wasanaethau ar y rheng flaen.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) dileu toriadau a wnaed i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yng nghyllideb ddrafft 2024-2025, ac ehangu eu cylch gwaith i ymchwilio i gwynion;
b) sefydlu amserlen gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar gyfer archwilio'r bron i 60 y cant o wasanaethau gofal iechyd nad ydynt wedi'u harolygu yn ystod y 5 mlynedd diwethaf;
c) sicrhau bod y cynnydd canlyniadol Barnett llawn o 20 y cant ar gyfer iechyd yn cael ei wario ar GIG Cymru; a
d) cyflwyno cynllun sylweddol ar gyfer y gweithlu gydag ad-daliad ffioedd dysgu ar gyfer gweithwyr gofal iechyd sy'n aros yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl eu hastudiaethau.
Adroddiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru 2022-2023
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
38 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl is-bwynt 2b) a rhoi yn ei le:
Yn gwerthfawrogi gwaith pwysig AGIC ac yn nodi'r heriau a amlygwyd.
Yn cydnabod y sefyllfa ariannol heriol ar draws Llywodraeth Cymru, sy'n parhau i flaenoriaethu gofal rheng flaen a gofynion staffio ein GIG.
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda darparwyr gofal iechyd gan ddefnyddio arolygiadau i ddysgu a gwella.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)
Ym mhwynt 3, dileu is-bwynt c), a rhoi yn ei le:
gwneud cais ffurfiol i Lywodraeth y DU am adolygiad cynhwysfawr o Fformiwla Barnett i sicrhau cyllid teg ar gyfer pob maes cyllideb yng Nghymru, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol;
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
14 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
cynyddu nifer y prentisiaethau gradd sydd ar gael yn y sector gofal iechyd i roi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ymuno â'r proffesiwn ac aros yng Nghymru i weithio.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8452 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru 2022-2023.
2. Yn gresynu bod yr adroddiad:
a) yn amlygu risgiau yn ymwneud â gofal brys, pryderon staffio, llif gwael cleifion a hygyrchedd apwyntiadau;
b) yn datgan bod oedi yn aml o ran rhyddhau cleifion oherwydd prinder staff gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol i asesu anghenion rhyddhau; ac
c) heb ddod o hyd i dystiolaeth fod mentrau Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth clir a sylweddol i wasanaethau ar y rheng flaen.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) dileu toriadau a wnaed i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yng nghyllideb ddrafft 2024-2025, ac ehangu eu cylch gwaith i ymchwilio i gwynion;
b) sefydlu amserlen gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar gyfer archwilio'r bron i 60 y cant o wasanaethau gofal iechyd nad ydynt wedi'u harolygu yn ystod y 5 mlynedd diwethaf;
c) gwneud cais ffurfiol i Lywodraeth y DU am adolygiad cynhwysfawr o Fformiwla Barnett i sicrhau cyllid teg ar gyfer pob maes cyllideb yng Nghymru, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol;
d) cyflwyno cynllun sylweddol ar gyfer y gweithlu gydag ad-daliad ffioedd dysgu ar gyfer gweithwyr gofal iechyd sy'n aros yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl eu hastudiaethau; a
e) cynyddu nifer y prentisiaethau gradd sydd ar gael yn y sector gofal iechyd i roi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ymuno â'r proffesiwn ac aros yng Nghymru i weithio.
Adroddiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru 2022-2023
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
40 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 16.46
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8451 Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod y Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) bod tua 80 y cant o gwmnïau bach yng Nghymru wedi cael trafferth recriwtio yn ystod y 12 mis diwethaf oherwydd prinder sgiliau;
b) y bwlch sgiliau ar draws sectorau economaidd yng Nghymru a amlinellwyd mewn Arolygon Sgiliau Cyflogwyr yn ddiweddar; ac
c) targed Llywodraeth Cymru i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed erbyn diwedd tymor presennol y Senedd.
2. Yn gresynu:
a) mai llai na thraean o darged Llywodraeth Cymru sydd wedi'i gyflawni, dros hanner ffordd drwy dymor presennol y Senedd;
b) y bydd gostyngiad amcangyfrifedig o 24.5 y cant mewn cyllid ar gyfer rhaglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru, a fydd yn arwain at 10,000 yn llai o brentisiaethau yn dechrau yn 2024-25; ac
c) bod Llywodraeth Cymru, o ganlyniad i ostyngiadau cyllid, yn methu yn ei chenhadaeth economaidd i gefnogi pobl ifanc i sicrhau dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sefydlu model ariannu hirdymor cynaliadwy ar gyfer prentisiaethau;
b) diystyru cyflwyno ffioedd dysgu ar gyfer gradd-brentisiaethau yng Nghymru; ac
c) comisiynu gwerthusiad annibynnol o ddichonoldeb cyrraedd ei tharged ar gyfer prentisiaethau pob oed erbyn 2026.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
40 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod busnesau bach ledled Cymru yn cael mynediad at ystod o gymorth cyflogaeth, sgiliau a busnes a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gwrdd â heriau recriwtio mewn marchnad lafur gyfnewidiol ac yn amgylchedd twf isel y DU;
b) y bwlch sgiliau sy'n bodoli mewn sectorau economaidd yng Nghymru a amlinellwyd mewn Arolygon Sgiliau Cyflogwyr diweddar; ac yn croesawu pwyslais Llywodraeth Cymru ar gymorth wedi'i dargedu yn y meysydd hynny, gan gynnwys cyllid ar gyfer cyfrifon dysgu personol;
c) targed Llywodraeth Cymru i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed erbyn diwedd tymor presennol y Senedd, a'r effaith y mae'r toriadau i gyllideb Cymru, colli arian yn lle'r cronfeydd Ewropeaidd a'r chwyddiant uchaf erioed yn ei chael ar gyllidebau busnes a chyhoeddus sy'n ofynnol i gyflawni yn erbyn amcangyfrifon a osodwyd cyn y sawl ysgytwad economaidd sydd wedi dod i'r amlwg ers 2021; a
d) bod toriadau i gyllideb Cymru, colli arian a addawyd yn lle cronfeydd yr UE a chwyddiant uchel tu hwnt wedi tanseilio cenhadaeth economaidd Llywodraeth Cymru, a goblygiadau hyn i bobl ifanc a'u gallu i gyflawni dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru.
2. Yn croesawu:
a) bod Llywodraeth Cymru, erbyn hanner ffordd drwy dymor presennol y Senedd, wedi ymrwymo dros £400m mewn prentisiaethau; a
b) yr ymrwymiad i ddiogelu ansawdd darpariaeth prentisiaethau ar adeg o ostyngiad mewn cyllidebau, ac yn cydnabod y risgiau hirdymor sy'n gysylltiedig â lleihau ystyriaethau ansawdd er mwyn cynyddu nifer y prentisiaethau a gyflwynir.
3. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn:
a) parhau i flaenoriaethu cyllid ar gyfer prentisiaethau yn erbyn cefndir o bwysau ariannol difrifol;
b) cefnogi prentisiaethau gradd yng Nghymru; ac
c) gweithio gyda'r rhwydwaith prentisiaethau i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 3, cynnwys is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (a) ac ail-rifo yn unol â hynny:
ehangu prentisiaethau, yn enwedig i lefel gradd, i fynd i'r afael â phrinder sgiliau mewn sectorau craidd gan gynnwys gofal iechyd, ynni adnewyddadwy a thechnoleg ddigidol;
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 3, cynnwys is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (a), ac ailrifo yn unol â hynny:
caniatáu ar gyfer pwyntiau mynediad hyblyg ar gyfer prentisiaethau gradd, gan gydnabod cyrhaeddiad addysgol blaenorol unigolyn;
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
27 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 17.52
Dechreuodd yr eitem am 18.01
NDM8453 Gareth Davies (Dyffryn Clwyd)
Strwythuro system gofal cymdeithasol sy'n addas ar gyfer Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.19
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 23 Ionawr 2024